Gwobrau Elusennau Cymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Elusennau i gael eu cydnabod am eu cyfraniadau hanfodol i Gymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf

CGGC* Datganiad i’r wasg 04.08.22:

Nod Gwobrau Elusennau Cymru yw i dynnu sylw at waith anhygoel elusennau a grwpiau dielw eraill a chaniatáu i bobl ledled Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad.


Ers y Gwobrau Elusennau Cymru diwethaf yn 2019, mae’r sector gwirfoddol wedi dangos pa mor bwysig ydyw i Gymru. Yn wyneb y sawl argyfwng sydd wedi effeithio ar gymdeithas, mae elusennau a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i helpu pobl ledled Cymru, a thu hwnt.


Yn dychwelyd ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd, gall pobl yng Nghymru nawr wneud eu henwebiadau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru a dathlu elusennau, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol sydd wedi mynd gam ymhellach i gynnig tosturi a chefnogaeth yn ogystal â gwasanaethau hanfodol.


Cafodd Gwobrau Elusennau Cymru eu hail-lansio heddiw ar stondin CGGC yn yr Eisteddfod Genedlaethol.


Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae Beiciau Gwaed Cymru sy’n darparu gwasanaeth cludo am ddim i’r gwasanaeth iechyd, yn darparu cyflenwadau gwaed, plasma, llaeth o’r fron, dogfennau ac eitemau hanfodol eraill ar hyd a lled y wlad. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim ac yn gweithredu bob diwrnod o’r flwyddyn, gan gynnwys gwyliau’r banc a Dydd Nadolig.


Gellir gwneud enwebiadau drwy ymweld â gwobrauelusennau.cymru.


Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 20 Medi 2022.


Gallwch enwebu mewn pum categori:

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu hŷn)
Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn eithriadol sy’n gwneud cyfraniad arbennig iawn at y gymuned neu’r amgylchedd drwy wirfoddoli.

Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu iau) 
Gall fod y gwirfoddolwr sy’n arwain ac yn ysbrydoli eraill, neu sy’n ymdrechu’n ddiflino i ‘fynd â’r maen i’r wal’

Arloeswyr digidol
Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi defnyddio digidol mewn modd arloesol i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.

Llesiant yng Nghymru
Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i grŵp neu fudiad sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned drwy wella lles meddyliol a/neu gorfforol.

Mudiad y Flwyddyn
Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad rhagorol sydd wedi cyflawni llawer iawn yn y flwyddyn ddiwethaf ac y mae eraill yn y sector yn ei barchu a’i edmygu.

 


DYDDIADAU ALLWEDDOL 2022

  • Cyfnod enwebu’n agor – 4 wst 2022
  • Cyfnod enwebu’n cau – 20 Medi 2022
  • Bydd enillwyr yn derbyn hysbysiad – wythnos yn dechrau 10 Hydref 2022
  • Derbyniad yr enillwyr yn Stiwdios ITV Cymru Wales Caerdydd – 22
  • Tachwedd 2022 Bydd yr enillwyr yn ymddangos ar newyddion ITV Cymru Wales am 6pm yn ystod Wythnos Elusennau Cymru (21-25 Tachwedd 2022)

*Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yw’r corff aelodaeth
cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Rydyn ni’n
bodoli er mwyn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud
mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd