Ymgynghori - Dweud eich dweud!
Mae gan y cyngor berthynas hirsefydlog a gwerthfawr â’r trydydd sector a gobeithiwn y bydd yn parhau.
Yn dilyn y pandemig, mae sgyrsiau a gynhaliwyd yn ddiweddar gyda sefydliadau’r trydydd sector wedi tynnu sylw at y canlynol:
- Mae cyfle i symleiddio gwasanaethau.
- Mae angen cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio ar y cyd â phartneriaid allweddol.
- Mae angen gwneud mwy mewn perthynas â llwybrau atgyfeirio a deall yn union beth yw anghenion unigolion.
- Dylai’r newidiadau a wnaed o ganlyniad i bandemig COVID-19 gael eu hystyried bellach yn gyfle i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi’i wneud a dylid defnyddio dull partneriaeth i nodi pa wasanaethau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
- Mae angen i farn defnyddwyr gwasanaeth a phreswylwyr fod yn rhan bwysig o waith cynllunio yn y dyfodol.
- Dylid cynnig cymorth i unigolion yn gynnar er mwyn sicrhau y rhoddir mwy o bwyslais ar atal a sicrhau’r canlyniad gorau posibl i unigolion
Ymgynghori
Mae ymgynghoriad chwe wythnos yn cael ei gynnal i gasglu barn defnyddwyr gwasanaeth a’r holl drigolion ledled Sir Gaerfyrddin i’n helpu i lunio dyfodol y gwasanaeth.