Strategaeth Arloesi i Gymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei Strategaeth Arloesi newydd i Gymru (y Strategaeth).  Gweler papur briffio CGGC yma.

Nodir mai gweledigaeth y Strategaeth yw ‘meithrin diwylliant arloesi bywiog mewn Cymru gryfach, decach a gwyrddach’.

Bydd CGGC yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, a hoffem glywed gan gymaint â phosibl o leisiau’r sector i’w cynnwys o bosibl yn ein hymateb. Mae’r sector gwirfoddol yn hanfodol i lwyddiant neu fethiant y Strategaeth. Po fwyaf o leisiau y byddwn yn eu clywed, mwya’n byd y gall ein hymateb ddylanwadu ar y gwaith, ac mae hwn yn bolisi pwysig i ni ddylanwadu arno.

Er mwyn casglu safbwyntiau’r sector, rydym wedi datblygu arolwg sy’n seiliedig ar yr ymgynghoriad. Gallwch ei weld yma. Edrychwch arno os gwelwch yn dda. Noder nad oes angen ateb yr holl gwestiynau; mae croeso i chi ateb cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch.

Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Gwener 16 Medi 2022. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog Polisi CGGC, David Cook, ar dcook@wcva.cymru.