Physical Empowerment: Sir Gâr

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin gyda merched sydd wedi byw drwy gam-drin domestig?
Os mai’r ateb yw ydw, hoffem eich gwahodd i sesiwn ragarweiniol i egluro beth yw Grymuso Corfforol, sut mae’n gweithio a sut y byddwch yn gallu ei ddefnyddio fel llwybr cyfeirio newydd, corfforol, ar gyfer y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw yn Sir Gaerfyrddin.

  • Pryd: Dydd Gwener 4 Tachwedd, 11am – 1pm
    Ble: St. Peter’s Civic Hall, Nott Square, Carmarthen, SA31 1PG
  • Beth yw Physical Empowerment? Cyrsiau a sesiynau rheolaidd sy’n defnyddio hunanamddiffyn (emosiynol, meddyliol a chorfforol) fel offeryn adsefydlu trawma ac yn helpu’r rhai sy’n mynychu i gysylltu’n ôl â’u greddf, eu hunan-werth a’u synnwyr o “berthyn” yn y gymdeithas.  Am fwy o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ewch i www.physicalempowerment.co.uk
  • Pam? “Mae dysgu hunan-amddiffyn yn eich grymuso i fyw gyda llai o ofn a mwy o ryddid.”
    Gall cyrff fod mor drawma â meddyliau. Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eu croen eu hunain.

Byddem wrth ein boddau gyda’r cyfle i ddangos i chi beth rydyn ni’n ei wneud a sut mae ein cyrsiau’n gweithio fel y gallwn eich ysbrydoli i gyfeirio eich defnyddwyr gwasanaeth atom.

Gweler y daflen

Cysylltwch: 01994 419243 / 07929 125957 neu team@physicalempowerment.co.uk a rhowch wybod i ni faint o bobl fydd yn mynychu o’ch sefydliad.