Fel rhan o’r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Argyfwng, bydd ymgyrch GIG 111 Cymru yn lansio heddiw, ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.
Noddwyd gan Nod 2, “Cyfeirio pobl ag anghenion gofal brys i’r lle cywir, y tro cyntaf”, nod yr ymgyrch genedlaethol yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac ymddiried yn GIG 111 Cymru, a helpu cleifion ag anghenion gofal brys i gael y gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei rhannu’n ddau gam, gan ddechrau gyda lansiad tawel digidol, a fydd yn datblygu i fod yn ymgyrch fwy amlwg a fydd yn cynnwys hysbyseb teledu, hysbysebion radio a bysiau.
Gweler ynghlwm wrth ein pecyn cymorth Cam 1. Rhannwch ymhlith eich timau a defnyddiwch y negeseuon a’r asedau oddi fewn i gefnogi’r ymgyrch. Gallwch hefyd gael mynediad i’r pecyn cymorth a’r banc asedau yma.
GIG 111 Cymru – Cyngor Gallwch Ymddiried Ynddo – Pecyn Cymorth Cam 1
Diolch am eich cefnogaeth