SESIWN GWYBODAETH: Rheoli Pryder a Lles

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

SESIWN GWYBODAETH: Rheoli Pryder a Lles

Dydd Mercher – 22 Tachwedd 2023

Ar-lein trwy Teams 12.00pm – ystafell ar agor 11.50am – Os gwelwch yn dda fod ar amser.

Ymunwch â ni am sgwrs gan Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru ar rheoli pryder a lles

Bydd cyfle ichi ofyn cwestiynau’n ogystal.  Mae croeso mawr i bawb!   

Cofrestrwch ar Eventbrite: Versus Arthritis – Managing Anxiety and Wellbeing Information Session Tickets, Wed 22 Nov 2023 at 11:50 | Eventbrite

 

Ystafell yn agor am 11.50yb, mae’r cyflwyniad yn dechrau am 12.00. Byddwch ar amser. 

Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy’n cefnogi pobl sy’n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.