Ydych chi eisiau gwella eich iechyd a'ch lles?
Mae Diabetes UK Cymru a Grŵp Diabetes Llanybydder yn cydweithio i gynnal digwyddiad Iechyd a Lles am ddim. Byddwch yn dysgu sut i ddod yn iachach ac yn fwy egnïol.
Clŵb rwgbi Llanybydder – sa40 9xx
Dydd Sadwrn 18fed Tachwedd
1pm – 4pm
Byddwn yn darparu cymorth iechyd a lles AM DDIM i unigolion a’u teuleuoedd gan gynnwys:
- MOT iechyd diabetes, darganfyddwch eich risg
- Cymorth iechyd a lles i chi a’ch teulu
- Adnoddau diabetes ac iechyd
- Arddangosfa coginio a ddarperir gan The Shared Plate
Drwy gydol y dydd cewch gyfle i ennill gwobrau anhygoel, gan gynnwys talebau archfarchnad!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar: wales@diabetes.org.uk
Lawrlwythwch flyer yma: Llanybydder Event – 18112023 (2)