SESIWN WYBODAETH: Arthritis A’R Menopos

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

SESIWN WYBODAETH: Arthritis A’R Menopos

Dydd Iau 23 Mai

Ar-lein dros Teams 12pm-1pm.

Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno gan: Rhiannon Griffiths, Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol ar gyfer Iechyd y Pelfis ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

 

Bydd y cyflwyniad yn ymdrin â pham rydym yn cael poen yn y cymalau, osteoporosis a chyflyrau a symptomau eraill sy’n gysylltiedig ag arthritis yn ystod y menopos, yn ogystal â thechnegau ac ymarferion hunanreoli i leddfu’r symptomau hyn.

 

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Mae croeso i bawb.

 

Cofrestrwch ar Eventbrite: Menopause and Arthritis Information Session Tickets, Thu 23 May 2024 at 12:00 | Eventbrite

 

Ystafell yn agor am 11:50, mae’r cyflwyniad yn dechrau am 12:00. Byddwch ar amser.

 

Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy’n cefnogi pobl sy’n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.