Beth sy’n digwydd ar gyfer Wythnos yr Ymddiriedolwyr yng Nghymru?

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Tachwedd 07, 2022 @ 9:00

Cost: Am Ddim

Lleoliad: Arlein

Cofrestrwch Yma

Mae Wythnos Ymddiriedolwyr 7 – 11 Tachwedd 2022 (gwefan Saesneg yn unig) ar fin cyrraedd ac i ddathlu, mae gennym raglen gyffrous o ddigwyddiadau sy’n cynnig rhywbeth i bob math o ymddiriedolwr. O ymddiriedolwyr sydd eisiau cynyddu eu gwybodaeth, i ymddiriedolwyr sy’n edrych ar sut y gall eu mudiad gofleidio trawsnewid digidol ac addasu i newid.

Felly pam aros? Archebwch eich lle nawr.

Cofrestru ar gyfer y weminar Gymraeg

Cofrestru ar gyfer y weminar Saesneg

Bydd llawer o’n partneriaid Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) lleol gwych yn cynnal digwyddiadau yn ystod yr wythnos, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar beth sydd gan eich CVC i’w gynnig. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr yma: Third Sector Support Wales.

Mae nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnig gan bartneriaid ledled y DU. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ar brif wefan Wythnos yr Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig).

Byddem yn ddiolchgar pe baech chi’n gallu rhannu’r wybodaeth hon gyda’ch Bwrdd Ymddiriedolwyr fel y gallant ymhél ag Wythnos yr Ymddiriedolwyr a manteisio ar yr hyn sydd i’w gynnig.

Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr (gwefan Saesneg yn unig) yn ddigwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob lliw a llun gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.

Beth ydych chi’n mynd i’w wneud ar gyfer Wythnos yr Ymddiriedolwyr?

Dyma rai syniadau ar sut gallwch chi gymryd rhan:

  • Treuliwch amser yn diolch i’ch ymddiriedolwyr am eu cyfraniad
  • Defnyddiwch yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr #trusteesweek i ymuno â’r drafodaeth ar gyfryngau cymdeithasol
  • Ewch i un o’r digwyddiadau lleol neu genedlaethol a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos
  • Manteisiwch ar y cyfle i hysbysebu unrhyw swyddi ymddiriedolwyr gwag y gallai fod gennych chi

Edrychwn ymlaen at ddathlu Wythnos yr Ymddiriedolwyr gyda chi yng Nghymru!

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.