Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mawrth 02, 2022 @ 18:30

Cost: Am ddim

Lleoliad: Ar lein- Zoom

Cofrestrwch Yma

Mae hwn yn alwad i’r rhai sy’n ymwneud â’r system fwyd yn Sir Gâr, a’r ardal gyfagos, yn ogystal ag Aelodau Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr. 

Os ydych chi’n ymwneud â’r system fwyd fel grŵp cymunedol, tyfwr proffesiynol neu amatur, ffermwr, dosbarthwr, cogydd proffesiynol sy’n defnyddio cynhwysion lleol, prosiect bwyd dros ben neu sefydliad sy’n cynnig cymorth cymunedol ehangach i’r rhai sy’n profi tlodi bwyd; neu fel rhanddeiliad yng Nghyngor Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae croeso cynnes i chi i’n Cyfarfod Rhwydwaith Cyfan. 

Fe fydd: 

  • Cyflwyniad i Fenter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru a chynlluniau ar gyfer hybiau bwyd cymunedol ledled Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion gydag Abi Marriott, Swyddog Datblygu Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru yn PLANED. 
  • Cyflwyniad i Astudiaeth Dichonoldeb Pontio North Star i gaffael cyhoeddus yn canolbwyntio ar gael bwyd lleol, iachus i mewn i brydau’r sector cyhoeddus, gydag Andy Middleton, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr TYF. 
  • Cyflwyniad i Leoedd Bwyd Cynaliadwy, a chyfle i helpu i lunio Siarter Fwyd ar gyfer Sir Gâr gydag Augusta Lewis o’r Rhwydwaith 
  • Cyfle i gwrdd ag eraill sy’n ymwneud â’r system fwyd yn Sir Gâr a dysgu am brosiectau o fewn ac o gwmpas y sir. 

 

Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM, ond mae cofrestru ar Eventbrite yn hanfodol. Cofrestrwch yma.

Dolen Facebook

Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr