Hyfforddiant Ar-Lein Cyfranogiad A Hawliau Plant Am Ddim

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mehefin 29, 2022 @ 9:30

Cost: Am Ddim

Lleoliad: Ar-lein

Cofrestrwch Yma

Rydym yn cydgweithio gyda Phlant yng Nghymru i ddarparu sesiynau hanner diwrnod Hyfforddi ar Gyfranogi a Hawliau Plant i Ymarferwyr, Rheolwyr a Gwneuthurwyr Polisi o’r Cyngor Sir Gaerfyrdidn a’n Partneriaid  sydd yn awyddus i archwilio sut y gallant gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc yn eu maes gwaith gwasanaeth a gwaith y sefydliad.

Dydd Mercher 29 mehefin 2022

9:30YB – 12:30

ar Microsoft Teams

Bydd cyfranogwyr yn:

  • Deall Cyfranogiad a sut mae’n galluogi Hawliau Plant
  • Archwilio’r dulliau y gellir eu defnyddio gyda phlanta phobl ifanc ar sail unigolyn a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd
  • Archwilio Cyfranogiad a’i Fframwaith Cyfreithiol
  • Ennill sgiliau ymarferol ar gynnwys pobl ifanc yn eich gwaith
  • Cael hwyl

 

I archebu eich lle AM DDIM heddiw ewch i www.youthsirgar.org.uk/booking-form a chwblhewch eich ffurflen archebu.

Am Fwy O Wybodaeth:
Cysylltwch â Sarah Powell ar SJPowell@sirgar.gov.uk neu ar 07748154672