Gweithio Hybrid

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Ebrill 27, 2022 @ 12:00

Cost: Am ddim

Lleoliad: Ar-lein - Zoom

Cofrestrwch Yma

Cynhadledd Llywodraethu Rhanbarthol Rhithwir Gorllewin Cymru

25ain – 29ain Ebrill 2022 12 – 1 bob dydd

Dydd Mercher 27ain Ebrill: Gweithio Hybrid

Catherine Almeida, Cyfreithwyr JCP

Wrth i Weithio Hybrid ddod yn fwy cyffredin, mae llawer o faterion y mae’n rhaid i sefydliadau feddwl amdanynt er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu. Bydd Catherine yn ymdrin â meysydd fel:

  • Beth yw’r materion cyfreithiol i fynd i’r afael â nhw os ydych am ymgorffori Gweithio Hybrid yn eich sefydliad?
  • A oes gennych bolisi Gweithio Hybrid clir a hygyrch ar waith, a chontractau cyflogaeth wedi’u teilwra’n benodol?
  • Sut ydych chi’n mynd ati i weithio ar y cyd?
  • Beth sydd angen bod mewn contractau Gweithio Hybrid i ddiogelu’r sefydliad?
  • Sut ydych chi’n diogelu Data sefydliadol?
  • Beth am Iechyd a Diogelwch?

Anfonir dolen Zoom atoch wrAth archebu’ch lle

Gweler sesiynau eraill