Press Release from Hywel Dda
O ddydd Gwener 16 Ebrill 2021 bydd pobl sy’n methu gweithio gartref ac na allant gael mynediad at brofion COVID-19 yn uniongyrchol trwy eu gweithle, yn gallu casglu pecynnau profi yn lleol i brofi eu hunain am y feirws cyn mynd i’r gwaith.
Bydd pob unigolyn yn gallu casglu dau becyn o saith dyfais hunan-brawf llif unffordd (LFD) i’w defnyddio gartref. Argymhellir cynnal profion ddwywaith yr wythnos gyda’r canlyniadau’n cael eu cofnodi ar borth Llywodraeth y DU (Report a COVID-19 rapid lateral flow test result – GOV.UK (www.gov.uk))
Mae’r ddarpariaeth brofi ychwanegol hon (a elwir yn ‘LFD Collect’) wedi’i chyflwyno ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i chynlluniau i leddfu cyfyngiadau yn raddol. Nid yw’n newid sut mae pobl â symptomau eisoes yn cyrchu profion COVID-19 yn lleol neu gyngor cyfredol Llywodraeth Cymru i weithio gartref lle bynnag y bo modd.
Gall unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro y mae’n ofynnol iddynt fynd i’r gweithle yn gorfforol, os dymunant, gasglu pecynnau profi (LFD) o’r safleoedd gyrru drowdd a restrir isod.
Nid oes angen gwneud apwyntiad, oherwydd gellir casglu’r rhain rhwng 9.30yb a 12.30yp (8.00yb-1.00yp yng Nghaerfyrddin), saith diwrnod yr wythnos.
- Aberystwyth – Canolfan Rheidol (Pencadlys Cyngor Sir Ceredigion), Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE (gyrru-drwodd a cerdded i mewn)
- Caerfyrddin – Safle Maes y Sioe Caerfyrddin, Nant-y-Ci, Caerfryddin, SA33 5DR (gyrru-drowdd yn unig)
- Hwlffordd – Archifdai Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2PE (gyrru-drwodd a cerdded i mewn)
- Llanelli – Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8QW (gyrru-drwodd a cerdded i mewn)