COP Cymru 2021

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Llywio ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd

Mae COP Cymru’n gyfres o ddigwyddiadau sy’n cynnig cyfle i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn trafodaethau pwysig ynghylch y newid yn yr hinsawdd

Wythnos Hinsawdd Cymru

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus yn 2020, mae Wythnos Hinsawdd Cymru’n dychwelyd rhwng 22-26 Tachwedd gyda rhaglen o ddigwyddiadau rhithiol dros 5 diwrnod. Bydd yr wythnos yn dechrau gyda thrafodaeth genedlaethol ar Gynllun Sero Net Cymru a’r camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru’n bodloni ei thargedau. Ar agor i bawb, bydd y sesiynau ar-lein yn helpu pobl i ddeall beth mae Cymru eisoes wedi’i gyflawni, pa newidiadau y gallwn eu disgwyl dros y bum mlynedd nesaf, a sut gallwn lywio’r dyfodol gyda’n gilydd. 

Bydd rhaglen bob diwrnod yn ymgymryd â thema wahanol ac yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau a dadlau yn cynnwys ystod eang o sefydliadau o bob cwr a chornel o Gymru. Gall mynychwyr gofrestru i wylio unrhyw un neu bob un o’r sesiynau byw, gadael sylwadau a gofyn cwestiynau fel rhan o’r gynulleidfa rithiol. 

Bydd cynnwys yr holl sesiynau Wythnos Hinsawdd Cymru ar gael drwy’r dudalen Ar alw.

Diwrnod 1 (Dydd Llun 22 Tachwedd): Cymru a’r byd

Diwrnod 2 (Dydd Mawrth 23 Tachwedd): Ynni ac allyriadau

Diwrnod 3 (Dydd Mercher 24 Tachwedd): Ymateb i’r argyfwng hinsawdd

Diwrnod 4 (Dydd Iau 25 Tachwedd): Natur a gwytnwch hinsawdd

Diwrnod 5 (Dydd Gwener 2 Tachwedd): Pobl a gweithredu dros yr hinsawdd