Ymgynghoriad Asesiad Lleol o Lesiant Sir Gâr

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Asesiad o Lesiant Lleol Drafft

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yng Nghymru gynhyrchu a chyhoeddi Asesiad o Les Lleol o bryd i’w gilydd. 

Mae BGC Sir Gaerfyrddin am gael gwybod am les pobl a chymunedau lleol, nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Mae BGC Sir Gaerfyrddin wedi paratoi Asesiad o Lesiant Lleol Drafft, sydd yn seiliedig ar ddata, tystiolaeth ac adborth oddi wrth ein preswylwyr a rhanddeiliaid. 

Y cam nesaf yw trafod a gwirio’r blaenoriaethau gyda thrigolion a chymunedau’r sir.

Sut i gymryd rhan
Darllenwch yr Asesiad o Lesiant Lleol Drafft a chymerwch rhan yn ein arolwg rhanbarthol.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 20 Ionawr 2022.

Mwy o wybodaeth