Wrth i Ddydd y Cofio agosáu cawn ein hatgoffa o Gymuned y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, y mae rhai ohonynt yn agored i niwed ac a fyddai’n elwa o’r cyllid hwn.
Royal British Legion – Everyday Needs Grants Programme
Mae grantiau o hyd at £2,400 ar gael i helpu cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU a’u teuluoedd sy’n cael trafferth talu eu biliau oherwydd yr argyfwng costau byw.
Mae’r gronfa’n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, sydd angen cymorth gyda hanfodion bob dydd fel offer cegin, dillad, a chostau ynni.
Bydd y fenter yn darparu grantiau brys na fydd yn rhaid eu had-dalu o hyd at £200 y mis am hyd at ddeuddeg mis. Gellir gwneud ceisiadau unrhyw bryd a dylid eu hasesu o fewn pum niwrnod i’w cyflwyno