Ynni Sir Gâr

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Cronfa newydd gan Ynni Sir Gâr i gefnogi prosiectau yn Sir Gâr sydd yn mynd i’r afael gyda’r argyfwng ynni presennol. Mae tyrbin gwynt cymunedol Ynni Sir Gâr yn Rhydygwydd, Salem wedi bod yn cynhyrchu ynni trydanol adnewyddadwy er mis Mehefin 2016. Erbyn hyn, rydym wedi cyrraedd y sefyllfa lle allwn ail-fuddsoddi rhan o’r elw nôl yng nghymunedau Sir Gaerfyrddin. Mae gyda ni swm o £20,000 i’w ail fuddsoddi mewn prosiectau sydd yn taclo materion tlodi tanwydd. Bydd y swm hwn yn cael ei rhannu ymysg nifer o brosiectau cymunedol neu fusnesau sydd yn gweithio o fewn eu cymunedau i daclo herion costau byw mewn perthnasedd ag ynni.Rydym yn derbyn ceisiadau rhwng £1,000 a £10,000. Rhaid bod y ceisiadau o fudiadau cymunedol neu fusnesau neu grwpiau sydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i’w cymunedau ac sydd wedi eu sefydlu ac yn gweithredu o fewn Sir Gâr. Am wybodaeth bellach ac i wneud cais, dilynwch y linc yma: Ynni Sir Gâr – Cronfa Gymunedol (ynnisirgar.org). Byddwn yn gwerthfawrogi petaech yn gallu rhannu’r cyfle hwn ymysg eich rhwydwaith a’ch gymuned.