Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Rheilffordd Calon Cymru (HOWL) yn falch o gyhoeddi Cynllun Grant Cymunedol newydd sy’n agored i grwpiau cymunedol, elusennau, neu CBC sydd wedi’u lleoli o fewn 6 milltir i orsaf ar y lein.
Drwy feini prawf y cynllun, rydym am gefnogi sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau neu brosiectau a fydd yn:
- Dod â chymunedau ynghyd
- Rhoi llais i gymunedau
- Lleihau effaith yr argyfwng costau byw
Mae grantiau o hyd at £500 ar gael i sefydliadau.