Cyfleoedd Gwirfoddoli Diweddaraf

Dyma’r Cyfleoedd Gwirfoddoli diweddaraf i’w hychwanegu at Gwirfoddoli Cymru yn Sir Gar.

 

Os hoffech chi fod yn wirfoddolwr ac os hoffech chi wybod mwy am y Cyfleoedd sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt, ystyriwch ymuno â Gwirfoddoli Cymru. Mae’n rhad ac am ddim, mae’n cymryd ychydig funudau i greu eich cyfrif, a gallwch bori drwy’r rolau niferus sydd ar gael gan grŵp amrywiol o Sefydliadau.

Am fwy o wybodaeth neu help i gofrestru ar y safle, e-bostiwch gwirfoddoli@cavs.org.uk

 
Data Entry VolunteerWest Wales Biodiversity Information Centre

Ydych chi’n chwilio am Gyfle Gwirfoddoli yn y sector Amgylchedd/Cadwraeth, ond eisiau gweithio gartref?

Mae CGBGC yn wasanaeth di-elw sy’n cael ei redeg ar ran y cyhoedd er budd bioamrywiaeth. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i drosglwyddo data o gofnodion papur i fformatau digidol.

Mae’r Cyfle hwn yn digwydd o adre, ac mae angen cyfrifiadur gyda dyfais ddiogel

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y linc uchod.

Volunteer Befriender in Pontyberem

Ymwelydd Annibynnol yw oedolyn sy’n gwirfoddoli i dreulio amser rhydd yn rheolaidd gyda pherson ifanc mewn gofal. Gan gwrdd â nhw ychydig oriau, unwaith y mis, mae Ymwelwyr Annibynnol yno i wrando arnynt ac i helpu pobl ifanc i siarad a meddwl am bethau bob dydd. Yn ystod y cyfnod hwn, byddant yn eu cefnogi yn eu diddordebau, yn eu mentora i wneud eu penderfyniadau eu hunain a bod yn ddylanwad cadarnhaol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y linc uchod.