Cyrsiau Hyfforddi – Tyfu Sefydliadau Trydydd Sector

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Croeso i lyfryn hyfforddi CGGSG ar gyfer hanner cyntaf 2024. Rydym yn falch iawn o allu cynnig ystod lawn o gyrsiau hyfforddi i chi a’ch sefydliad – p’un a ydych yn chwilio am help i reoli neu fentora eich gwirfoddolwyr, neu angen hyfforddiant mewn diogelu neu hylendid bwyd.

Mae’r prosiect “Tyfu Sefydliadau Trydydd Sector” yn darparu gwybodaeth a chymorth manwl i gryfhau’ch sefydliad. Rydym yn cefnogi sefydliadau i fod yn wydn a chynaliadwy wrth gyflwyno gweithgareddau llawr gwlad yn eu cymunedau. Yn bwysicaf oll, mae cyrsiau a gynigir o dan y prosiect am ddim i sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli yn Sir Gâr.

Byddwn yn darparu mwy o hyfforddiant dros y misoedd nesaf ac yn rhyddhau dyddiadau pellach ar gyfer ein cyrsiau, felly cadwch lygad am ragor o wybodaeth. Bydd y cyrsiau’n cynnwys Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, Rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr, Sut i sefydlu mudiad trydydd sector newydd, Cyfathrebu digidol a chyfryngau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi cyflym ar-lein ar amrywiaeth o bynciau.

Yn olaf, os oes cwrs yr hoffech chi i ni ei gynnig, rhowch wybod i ni drwy e-bostio training@cavs.org.uk

Lawrlwythwch y ddogfen YMA