Mae’r cyfarfod hwn ar Zoom
Mae croeso i bob sefydliad trydydd sector yn Sir Gâr.
Mae AGENDA yn cynnwys:
Cyflwyniadau gan:
- Adfywio Cymru
Mae Adfywio Cymru’n rhaglen a arweinir gan ymarferwyr sy’n helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hol troed carbon, i addasu i ganlyniadau newid hinsawdd ac i fyw yn fwy cynaliadwy.
- The Carbon Community
A new reforestation approach, rooted in science, to increase carbon sequestration in trees & soil.
Cyfnewid gwybodaeth:
- Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
Bydd y cyfarfod hwn yn anelu at ddatblygu’r syniadau a drafodwyd eisoes ar feysydd posibl o gydweithredu yn y dyfodol: e.e. codi ymwybyddiaeth, darparu cefnogaeth, gwybodaeth, arweiniad ac ati i’r 3ydd sector ehangach.
Dyma gyfle hefyd i sefydliadau rannu profiadau a syniadau a thrafod unrhyw faterion sy’n effeithio arnyn nhw yn ystod yr argyfwng hwn
………………………………..
Cefndir grŵp: Nod y rhwydwaith hwn yw caniatáu i sefydliadau’r 3ydd Sector sy’n ymwneud â materion amgylcheddol rannu gwybodaeth a chydweithio i gyflawni nodau cyffredin.
Bydd y rhwydwaith hefyd yn caniatáu i grwpiau ddilyn y cynnydd a wnaed gan Grŵp cyflenwi Arferion Iach y BGC wrth weithredu Cynllun Llesiant Sir Gâr.
Anfonir dolen Zoom atoch wrth archebu’ch lle