FareShare Cymru yng Nghaerfyrddin

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

O fis Medi ymlaen, bydd FareShare Cymru yn rhoi cymorth i brosiectau bwyd yng Nghaerfyrddin. Fel rhan o’r gwaith hwn bydd angen gwirfoddolwyr Sir Gaerfyrddin arnom.

Mae FareShare Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr o Sir Gaerfyrddin.

Mae FareShare Cymru yn ail ddosbarthu bwyd dros ben o ansawdd da, a fyddai fel arall yn mynd yn wastraff, i grwpiau cymunedol ac elusennau sy’n rhedeg prosiectau bwyd.  Mae’r prosiectau hyn yn defnyddio bwyd i gefnogi pobl fregus yn eu cymunedau, ac yn cynnwys: llochesi ar gyfer pobl digartref a phobl sydd wedi dioddef trais domestig, clybiau cinio ar gyfer pobl hŷn, pantrîs cymunedol a llawer mwy.

‘Heb y dosbarthiadau ‘rydyn ni’n eu derbyn gan FareShare Cymru, byddai nifer o deuluoedd Gorllewin Cymru yn wynebu’r dewis anodd rhwng talu biliau ynni sydd ar gynnydd,  a bwyta.’ – Foothold Cymru, Llanelli

Mae FareShare Cymru yn gweithio i gefnogi grwpiau cymunedol ac elusennau Gorllewin Cymru.  Rhan nesaf hyn yw gweithio gyda grwpiau yng Nghaerfyrddin o fis Medi.  Un enghraifft o brosiect bwyd y byddant yn ei gefnogi ym mis Medi, yw caffi cymunedol sy’n gweithio i fynd i’r afael ag achosion ehangach tlodi, yn hytrach na dim ond symptomau newyn, trwy greu lle i bobl gyfarfod a bwyta bwyd da tra’n cael cymorth gan wasanaethau cynghori.

Er mwyn cefnogi’u gwaith yng Ngorllewin Cymru mae FareShare Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr.  Byddai’r rôliau yn cynnwys gyrru i fannau penodol ledled gorllewin Cymru, cefnogi grwpiau drwy gasglu bwyd a deall pwysigrwydd diogelwch bwyd.  

Yn ystod cyfnod lle mae costau byw yn cynyddu, gobeithiai FareShare Cymru allu darparu cefnogaeth fwyd i grwpiau cymunedol ac elusennau Caerfyrddin sy’n gweithio i gefnogi’r bobl yn eu cymuned sy’n wynebu tlodi bwyd.

Ceir mwy o wybodaeth am FareShare Cymru ar eu gwefan https://fareshare.cymru/

Cysylltwch â members@fareshare.cymru  os oes gennych chi gwestiynau. 

Rolau Gwirfoddolwyr

Disgrifiad Rôl Gwirfoddoli: Gyrrwr

Disgrifiad Rôl Gwirfoddoli: Cynorthwyydd dosbarthu

Gwelwch hefyd : https://fareshare.cymru/volunteer-with-us/