Gwneud y dewisiadau ‘gwirfoddoli’ iawn ichi.

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

 

Mae dewis gwirfoddoli gyda grŵp cymunedol bach neu elusen fwy yn gallu bod yn benderfyniad anodd, ond y newyddion da ydy nad oes y fath beth â dewis anghywir! Mae’r ddau ddewis yn cynnig cyfleoedd unigryw ichi wneud argraff gadarnhaol ar draws Sir Gaerfyrddin.

Beth am edrych ar fanteision y ddau i’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus.

Yn gyntaf, dewch inni sôn am grwpiau cymunedol bach. Mae’r mudiadau clos hyn fel teuluoedd, lle y mae pawb yn adnabod ei gilydd ac yn gweithio tuag at nod cyffredin.

Gall gwirfoddoli gyda grŵp cymunedol bach yn Sir Gaerfyrddin fod yn brofiad sy’n cynnig cymaint ichi. Fe gewch weld effaith uniongyrchol eich ymdrechion ar y gymuned leol, boed trwy drefnu digwyddiadau, cefnogi mentrau lleol, neu ddim ond cynnig help llaw lle y mae ei angen fwyaf.

Er enghraifft, gallech feddwl am wirfoddoli gyda grŵp amgylcheddol lleol sy’n gweithio i gadw harddwch naturiol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Trwy ymuno ag unigolion o’r un anian, gallwch gyfrannu at glirio sbwriel (Taclo Llandeilo), plannu coed (Glasbren), neu godi ymwybyddiaeth o arferion byw cynaliadwy (Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr). Gall pob cam, waeth pa mor fychan, wneud gwahaniaeth pwysig wrth ofalu am yr amgylchedd er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Ar y llaw arall, mae elusennau mwy sy’n cefnogi cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin yn cynnig dewis ehangach o gyfleoedd ac yn elwa o gyrraedd mwy o bobl, mwy o adnoddau a ffynonellau ariannol. Yn aml iawn mae gan y mudiadau hyn rwydweithiau a seilwaith cadarn, sy’n golygu y gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn prosiectau a mentrau o bob math.

 

Os ydych yn angerddol am gefnogi poblogaethau bregus (Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin), hyrwyddo addysg (Achub y Plant), neu ailgylchu (Siop Elusen Y Groes Goch Brydeinig), y tebyg yw y bydd elusen fwy yn gweithio yn ein sir i hyrwyddo diddordebau a gwerthoedd tebyg i’ch rhai chi.

Meddyliwch, er enghraifft, am elusen sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau hanfodol i deuluoedd mewn angen fel Home-Start Cymru. Trwy wirfoddoli gyda mudiad o’r fath, gallwch chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi’r sawl sy’n wynebu caledi, cynnig cefnogaeth emosiynol i unigolion sy’n mynd trwy argyfwng, neu eiriol dros newidiadau polisi i fynd i’r afael â materion systemig sy’n effeithio’r gymuned. Gall eich cyfraniadau helpu gwella ansawdd bywyd i unigolion a theuluoedd dirifedi yn Sir Gaerfyrddin, a gwneud argraff barhaol sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’ch oriau gwirfoddoli chi.

Yn y pendraw, os ydych yn dewis gwirfoddoli gyda grŵp cymunedol bach neu elusen fwy yn Sir Gaerfyrddin, y peth pwysig yw eich parodrwydd i gynnig help llaw a gwneud gwahaniaeth. Beth bynnag yw maint y mudiad, gall eich ymdrechion drawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau, a chreu dyfodol mwy gobeithiol i bawb.

Felly ewch amdani a chymerwch y cam cyntaf tuag at wirfoddoli – fe gewch eich rhyfeddu wrth weld y newid cadarnhaol y gallwch ei greu, yn ein sir ac yn eich bywyd eich hun. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu gwell yfory, un weithred garedig ar y tro!