Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol o’r cyfraniad y mae miliynau o bobl yn ei wneud ledled gwledydd Prydain trwy wirfoddoli yn eu cymunedau. Ymunwch â ni eleni i ddathlu ac ysbrydoli!
Mae pobl yn gwirfoddoli dros achosion o bob math, ond gwirfoddoli yn y trydydd sector sydd fwyaf cyffredin. Gwirfoddoli o bell (gwirfoddoli ar-lein neu ar y ffôn) yw’r trydydd ‘lle’ mwyaf cyffredin y mae pobl yn gwirfoddoli ynddo.
Cliciwch yma am Arolwg Amser Gwerth Ei Dreulio
Mae gwirfoddoli o bell yn gallu cynnig ffordd i mewn i recriwtio i bobl fyddai’n ei chael yn anodd gwirfoddoli wyneb yn wyneb. Gallai hynny fod oherwydd rhesymau amser neu iechyd, er enghraifft. Fodd bynnag, mae eithrio digidol, diffyg mynediad at dechnoleg a lefelau isel o sgiliau neu hyder digidol oll yn gallu cyfyngu gallu pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli ar-lein.
Digwyddiadau cymunedol CAVS - Wythnos Gwirfoddolwyr 2024
Mae digwyddiadau cymunedol CAVS trwy gydol Wythnos Gwirfoddolwyr eleni yn cefnogi ‘Rydyn ni gyda chi’. Fel ymgyrch recriwtio gwirfoddolwyr, mae’n ffordd o godi proffil gwirfoddoli ar draws Sir Gaerfyrddin, wrth inni godi llais dros unigolion, cymunedau ac elusennau/grwpiau lleol. Mae hon yn berthynas ddeinamig rhwng rhannau hollbwysig sy’n dod at ei gilydd i gefnogi’r sir gyfan.
Ymunwch â ni yn Neuadd Ddinesig San Pedr, Tref Caerfyrddin ar ddydd Mawrth Mehefin 4ydd rhwng 10am – 2pm
Ymunwch â 7 partner Cysylltu Sir Gâr, CAVS a Chyngor Sir Caerfyrddin. Hefyd yn bresennol fydd y Gymdeithas Stroc, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Pobl yn Codi Llais.
Ymunwch â ni yn Hendygwyn ar Daf ar ddydd Mercher Mehefin 5ed 9.30am – 2.30pm
Ymunwch â 7 partner Cysylltu Sir Gâr, CAVS a Chyngor Sir Caerfyrddin. Hefyd yn bresennol fydd Skanda Vale
Ymunwch â ni yn Llandysul ar ddydd Iau Mehefin 6ed rhwng 10am – 2.00pm
Ymunwch â 7 partner Cysylltu Sir Gâr, CAVS a Chyngor Sir Caerfyrddin. Hefyd yn bresennol fydd Marie Curie, Alzheimer’s a Celf ar gyfer Llesiant.
Ymunwch â ni yn Sied Nwyddau Llanelli ar ddydd Gwener Mehefin 7fed rhwng 11am – 2.00pm Ymunwch â 7 partner Cysylltu Sir Gâr, CAVS a Chyngor Sir Caerfyrddin. Hefyd yn bresennol fydd Llanelli Links, Cymdeithas Amlddiwylliannol Llanelli a’r RNID |
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Gymunedol Cwmaman ar ddydd Gwener Mehefin 7fed rhwng 10am – 2.00pm Ymunwch â 7 partner Cysylltu Sir Gâr, CAVS a Chyngor Sir Caerfyrddin. Hefyd yn bresennol fydd yr Amman Social Prescriber, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Chyfeillion Y Betws. |