Cysylltu Sir Gâr

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae’r llwyfan hwn ar gyfer cymunedau i gysylltu a chefnogi ei gilydd, gan gadw hwyliau pawb yn dda trwy’r amser heriol hwn.

Crëwyd Cysylltu Sir Gâr er mwyn dod â chymunedau ac unigolion ynghyd – man lle gallwch gynnig cymorth i’ch cymdogion a’r gymuned ehangach, neu ofyn iddynt am gymorth. Does dim prynu na gwerthu yma, dim ond pobl yn helpu pobl.

Gwefan : connectcarmarthenshire.org.uk

Facebook: @connect2timebank

Mae’r platfform hwn ar gael ar gyfer unrhyw un sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Ein nod sylfaenol yw hwyluso cyfnewid cynigion a cheisiadau rhwng pobl ym mhob un o’n trefi a’n pentrefi.

Mae Sir Gaerfyrddin yn lle bywiog a chadarnhaol, a gwyddwn fod yna ddiwylliant gwirfoddoli cryf yn bodoli eisoes ymhlith ein trigolion. Fodd bynnag, nid platfform gwirfoddoli yw Cysylltu Sir Gâr, ond banc amser.

Mae bancio amser yn caniatáu i chi gynnig cymorth i unrhyw un yn eich ‘cymuned’ (stryd, pentref, tref neu sir), yn gyfnewid am gredydau amser. Yna, gallwch wario’r credydau rydych wedi’u hennill trwy geisio cymorth gan eraill neu’u rhoddi i ffrindiau, perthnasau neu fudiadau a fyddai’n eu gwerthfawrogi’n fwy.

Felly, nid dyma’r lle ar gyfer gwirfoddoli traddodiadol – dyma’r lle ar gyfer gweithredoedd bach o garedigrwydd, ar hap, rhwng pobl yn Sir Gaerfyrddin, yn seiliedig ar y sgiliau unigol sydd gennych i’w cynnig, neu’r broblem benodol sydd gennych i’w datrys.