Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Fy enw i yw Dave Williams. Rwy’n yrrwr gwirfoddol gyda Dolen Teifi.

Mae’r rôl yn cynnwys cludo grwpiau o ddinasyddion mewn oedran, grwpiau ieuenctid, grwpiau eglwysig a’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, fy mhrif ddiddordeb yw cludo cleifion o’r cartref i’r ysbyty, apwyntiadau, i glinigau a phobl sy’n gaeth i gadeiriau olwyn i wahanol apwyntiadau.

O ganlyniad i’r gwaith hwn, rwyf wedi dod i sylweddoli bod prinder mawr o drafnidiaeth i ddefnyddwyr cadair olwyn ac mae’n rhoi boddhad mawr i mi allu diwallu’r angen hwn, i ryw raddau, gyda Dolen Teifi.

Cyn y rôl wirfoddol hon, gweithiais am dros 40 mlynedd yn y GIG, mewn swydd ofalgar, ac mae’r rôl honno’n parhau yn fy swydd wirfoddol gyda staff swyddfa cefnogol iawn.

Diolch.

Hi, my name is Dave Williams. I am a volunteer driver with Dolen Teifi.

The role consists of transporting senior citizen groups, youth groups, church groups and those with mental health issues. However, my main interest is transporting patients from home to hospital, appointment cares, home residences to clinics  and wheelchair bound people to various appointments.

As a result of this work, I have come to realise that there is a great shortage of transport for wheelchair users and it gives me great satisfaction to be able to fulfil this need, to a certain degree, with Dolen Teifi.

Prior to this voluntary role I worked for over 40 years in the NHS, in a caring capacity, and that role continues in my voluntary position with very supportive office staff.

Thank you.