Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Alud ydw i. Rwy’n gweithio yn y drydydd sector ond rydw I hefyd yn gwirfoddoli, gyda Neuadd y Gymuned yma yn Llanddeusant. Mae’n bwysig iawn I fi gael rhoi rhywbeth yn ol i’r gymuned rwy’n ffodus iawn i gael byw ynddo, a’r ffordd gorau I mi neud yna yw wrth helpu edrych ar ol y neuadd. Hwn yw’r unig le sydd gyda ni yn y pentre ble gallwn ni gwrdd, ac mae’n hwb lle gall y gymuned ddod at eu gilydd.

Rydyn ni’n neud sawl gwahanol math o beth, gyrfa chwist a bingo, cyngherddau, cynnal bwydydd, a dros y Nadolig byddwn ni’n mynd allan i ganu carolau er mwyn codi arian i elusennau lleol.

Mae’n rhoi teimlad cynnes i berson rhoi rhywbeth yn ol, a bydde fi’n awgrymu I bawb neud ychydig bach  o wirfoddoli os ydych chi’n gallu.

I’m Alud. I work in the 3rd sector but I also volunteer with the Community Hall in Llanddeusant. It’s very important to me to give something back to the community I’m fortunate enough to live in, and the best way for me to do so is to help look after the Hall. This is the only place in the village where we can meet, and it’s a hub where the community can come together.

We do many different activities here, ranging from whist drives and bingo to concerts and food evenings, and over Christmas we will be out singing carols around the houses to raise money for local charities.

It gives a person a warm feeling to give something back, and I would recommend everyone do a little bit of volunteers if they can.