Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Helo, shwmae, fy enw i yw Awen Fach ac rwy’n wirfoddolwr ac ymddiriedolwr yn Mind, yng Nghaerfyrddin – sydd bellach yn Pembrokeshire and Carmarthen Mind.

Mae fy nghefndir mewn seicoleg, ac rwyf wedi gweithio ym maes iechyd meddwl ers dros 20 mlynedd gan gynnwys cyflwyno dwy system gymorth ar gyfer iechyd meddwl digidol yng Nghymru, yn enwedig i blant, sy’n rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdano. Hefyd yn angerddol am deithio, theatr gerdd ac rwy’n gwneud rhywfaint o ganu ac ysgrifennu.  Rwyf wrth fy modd gyda tywydd braf, cerddoriaeth dda, treulio amser gyda theulu a ffrindiau ac yn darllen llyfr da. Maen nhw i gyd yn gwneud i mi wenu. I gefnogi’r gymuned dwi wedi canu mewn gigs elusenol, yr un mwyaf diweddar yw PAPYRUS sy’n elusen ardderchog ac yn gwneud gwaith pwysig iawn, iawn.

Rwyf hefyd yn cymryd rhan yn Mind a’r grŵp garddio gweithgar iawn yno pan fo’r tywydd yn braf. Dydw i ddim yn arddwr tywydd gwael. Ond maen nhw’n gwneud gwaith gwych.

 

Y rheswm pam y dewisais Mind fel yr elusen i’w chefnogi fel gwirfoddolwr yw oherwydd fy niddordeb a’m hangerdd hirdymor dros faterion iechyd meddwl. Rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl ac rwyf hefyd yn siarad Cymraeg gyda defnyddwyr Cymraeg y gwasanaeth, mae’n well gan rai ohonynt gyfathrebu yn Gymraeg felly mae’n dda cael yr opsiwn hwnnw ar eu cyfer. Rwy’n mwynhau bod yn wirfoddolwr ac yn ymddiriedolwr o fewn y sefydliad a gobeithio y bydd hyn yn gwneud cyfraniad i’m cymuned leol.

Felly, os ydych chi’n ymuno â rhywun fel gwirfoddolwr – croeso i’r grŵp gwirfoddol.

 

Yn y cyfamser,  Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

 

 

Hello, shwmae, my name’s Awen Little and I am a volunteer and trustee in Mind, based in Carmarthen – which is now Pembrokeshire and Carmarthen Mind.

My background is in psychology, and I’ve worked in mental health for over 20 years including introducing two support systems for digital mental health in Wales, especially for children, which is something I am very passionate about. Also passionate about travelling, music theatre and I do some singing and writing.  I love good weather, good music spending time with family and friends and reading a good book. They all make me smile and happy. To support the community I’ve sung in charity gigs the most recent one is PAPYRUS which is a fab charity and do very, very important work.

I also take part in Mind and the very active gardening group there when the weather is nice. I’m not a bad weather gardener. But they do a fabulous fabulous job.

 

The reason I chose mind as the charity to support as a volunteer is because of my long-standing interest and passion for mental health matters. I am a fluent Welsh speaker and I also speak Welsh with the Welsh service users, a few of them prefer to communicate in Welsh so it’s good to have that option for them. I really enjoy being both a volunteer and a trustee within the organsiation and I hope this makes a contribution to my local community.

So, if you do join someone as a volunteer – welcome to the volunteer group.