Jane Hemmings
Swyddog Gwirfoddoli
Dyddiau gwaith arferol: Dydd Mawrth a Dydd Mercher
jane.hemmings@cavs.org.uk
Beth rydw i’n wneud:
- Cefnogi gwirfoddolwyr i ddod o hyd i gyfleoedd addas sy’n cyfateb i’w diddordebau a’u sgiliau
- Cynorthwyo mudiadau i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau gwirfoddoli sy’n adlewyrchu arfer da.
- Cefnogi cyfarfodydd rhwydwaith CVON.
- Cynllunio a darparu hyfforddiant
“Mae gwirfoddoli yn broses ddwy ffordd. Rydych yn rhoi ac yn derbyn. Arweiniodd fy ngwirfoddoli i at newid gyrfa llwyr!”
Alud Jones
Swyddog Gwirfoddoli
Dyddiau gwaith arferol: Dydd Llun tan Ddydd Iau
alud.jones@cavs.org.uk
Beth rydw i’n wneud:
Helpu bobl sydd eisiau gwirfoddoli i ddod o hyd i rolau ystyrlon a pherthnasol
Helpu i hyrwyddo Cyfleoedd Gwirfoddoli
Annog defnyddio gwefan Gwirfoddoli Cymru
Jamie Horton
Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol
Dyddiau gwaith arferol: Dydd Llun tan Ddydd Gwener
jamie.horton@cavs.org.uk
Beth rydw i’n wneud:
Mae fy rôl yn ffocysu ar adolygu a chydlynu ffyrdd o gymell gwirfoddoli trwy ddatblygu cyfleoedd newydd, hyblyg i alluogi pobl leol i roi eu hamser i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Mae cefnogi grwpiau cymunedol yn ystod y pandemig wedi fy nghyflwyno i gronfa anhygoel o barodrwydd a gweithredu cadarnhaol. Rwyf yma i gefnogi creu cysylltiadau i bawb trwy weithgareddau cymunedol a hwyluso cyfleoedd ar gyfer ymglymu cymunedol. Efallai y gwelsoch fi ar eich tudalen Facebook gymunedol yn rhannu gwybodaeth, yn amlygu cyfleoedd ac yn eich annog i gymryd rhan.
“Cefais fy magu mewn amgylchedd matriarchaidd lle’r oedd ‘helpu’ pryd bynnag a lle bynnag y gallech yn cael ei normaleiddio. Bûm yn ‘gwirfoddoli’ o oedran ifanc iawn ac aeth â fi i bedwar ban byd. Mae’n rhan o fy nhirlun dyddiol ac mae’n rhan gynhenid o bwy ydw i”.
Tom Haskett
Cynorthwyydd Cymorth Gwirfoddoli
tom.haskett@cavs.org.uk