Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Sir Gâr – wedi ei hwyluso gan CAVS
Mae Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Sir Gâr yn grŵp anffurfiol o bobl sy’n gweithio fel gwirfoddolwyr yn y sector gwirfoddol a statudol ledled Sir Gâr.
Pwrpas y Rhwydwaith yw cynorthwyo i ddarparu a datblygu gwasanaeth gwirfoddoli effeithiol yn Sir Gâr.
Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i drafod problemau, rhannu profiadau a syniadau, dysgu am ei gilydd a derbyn cefnogaeth cyfoedion. Mae iechyd a lles gwirfoddolwyr wrth wraidd sut rydym yn ymddwyn.
Mae croeso i unrhyw un sy’n gwirfoddoli ar draws ein sir ddod i’r cyfarfodydd Rhwydwaith hyn; maent yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol a gellir eu cyrchu ar-lein trwy Zoom.
Mae croeso i wirfoddoli anffurfiol, a llwybrau mwy ffurfiol, a bydd y grŵp hwn ar gael yn ychwanegol at y cymorth sydd ar gael i chi ar hyn o bryd.
Os yw ymuno â ni ar-lein ychydig yn anodd ar hyn o bryd, ffoniwch ni a gallwn drafod eich anghenion yn bersonol.
Cyswllt – phone 01267 245555 neu ebost Jamie.horton@cavs.org.uk
Comisiynwyd gan Gyngor Sir Gâr – Cyflwynir gan CAVS