Cronfa Ymateb Cymunedol COVID-19 Sir Gâr
Enw’r Mudiad | Autism Wellbeing CIC |
Lleoliad | Garth, Gwernogle, Sir Gaerfyrddin |
Mwy am y mudiad
| Menter gymdeithasol nid er mwyn elw sy’n darparu nifer o wasanaethau cefnogi a llesiant gwahanol i bobl awtistig a’u teuluoedd i leihau trallod a chynyddu llesiant. |
Swm a Phwrpas y Grant | £986.89 Creu Pecyn Cefnogi Covid-19 yn cynnwys 17 o daflenni gwybodaeth ar agweddau gwahanol o gefnogi plant a phobl ifanc awtistig yn ystod Covid-19 a thu hwnt. Mae’r testunau’n cynnwys Cefnogi plentyn gartref, Cyfarwyddo â’r normal newydd a Rhai pethau i’w hystyried am orchuddion gwyneb, yn ogystal â thaflen wybodaeth ar bob un o’r wyth synnwyr. Ymchwilio ac ysgrifennu’r dogfennau PDF testunol unigol, darlunio’r dogfennau PDF, creu a chymedroli tudalen Facebook bwrpasol yn gartref i’r Pecyn Cefnogi, hyrwyddo’r Pecyn ar gyfryngau cymdeithasol ac ychwanegu 36 PDF testunol newydd wrth i’r pandemig ddatblygu. Creu cynnwys (testun) £575.75 Creu cynnwys (darluniau) £82.14 Rheoli’r prosiect, prawfddarllen, golygu a hyrwyddo’r adnodd. £329.00 |
Cyflawniadau’r Prosiect/ Heriau/Buddiolwyr /Partneriaid/Deilliannau | Ar hyn o bryd mae 53 PDF ar gael ar destunau gwahanol i’w lawr lwytho’n rhad ac am ddim. Mae gan y grŵp Facebook sy’n gofalu am Becyn Cefnogi Covid-19 236 o aelodau ar hyn o bryd. 236 o fuddiolwyr: Elwodd plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig, elwodd rhieni plant a phobl ifanc awtistig ac felly hefyd weithwyr proffesiynol. Roeddent wedi elwa trwy gael defnyddio nifer o adnoddau rhad ac am ddim oedd yn berthnasol i’w hawtistiaeth ac i gefnogi pobl awtistig yn ystod pandemig Covid-19. Ysgrifennwyd yr adnoddau hyn gan berson awtistig a siaradodd yn uniongyrchol o ac i brofiad awtistig. Cyfanswm yr oriau gwirfoddoli 72 Cyfanswm y gwirfoddolwyr 3 Cafodd Autism Wellbeing CIC ei gydnabod yn Arwr Cyfnod Clo Sir Gaerfyrddin yn rhannol oherwydd yr adnoddau rhad ac am ddim a ariannwyd gan ein grant C19CRF. |