Cronfa Ymateb Cymunedol COVID-19 Sir Gâr
Enw’r Mudiad | Old Mill Foundation |
Lleoliad | Llandybie, Sir Gaerfyrddin, a 3 canolfan yn Ne Cymru (2 yn ardal Sir Gaerfyrddin) |
Mwy am y mudiad
| Mae’n cynnig cefnogaeth i bobl yn eu cymunedau sydd ar daith canser trwy weithgareddau a thriniaethau |
Swm a Phwrpas y Grant | Cyfanswm yr Arian a Dderbyniwyd £917
PPE (mygydau, Misyrnau, Menig, Ffedogau) 395.30 Sgrin ac arwyddion 179.88 Thermomedrau 179.82 Glanweithydd 70.80 Clustogau 91.20
Cryfhau ein presenoldeb ar-lein a darparu mwy o weithgareddau ar-lein fel Tai Chi, yoga, myfyrdod, hunan dylino meinwe craith, ymgynghoriadau, boreau coffi. Addasu’r gwasanaeth defnyddio dwylo i gefnogi’r gymuned ganser sydd yn y categori bregus. Hefyd, darparu PPE ar gyfer staff a gwirfoddolwyr fel y gallant ddechrau’n araf i gyflwyno gwasanaeth un ac un wyneb yn wyneb lle y mae ei angen. Hefyd, darparu hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr, staff a’r gymuned ynghylch Covid-19 a sut i weithio.
|
Cyflawniadau’r Prosiect/ Heriau/Buddiolwyr /Partneriaid/Deilliannau |
Cyrhaeddwyd mwy o’r gymuned ganser mewn ffordd ddiogel a llesol, gan gynnwys sgyrsiau wyneb yn wyneb a thriniaethau i leddfu gorbryder ac anghysur yn dilyn llawdriniaethau a gyda Lymffoedema.
Defnyddiwyd PPE addas i gadw gwirfoddolwyr a’r gymuned yn ddiogel.
Darparwyd tylino, adweitheg, homeopathi, reiki, cynghori a Thylino Lymffatig â Llaw. Mae pob un o’r therapïau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’w llesiant, yn gorfforol ac yn emosiynol.
Hefyd, darparwyd llecyn sgwrs a choffi yng nghanolfan Llandybie gyda grwpiau bychain o 6 ar y tro. Bu hyn yn bwysig iawn i’r gymuned a’r staff gan fod rhai yn byw ar eu pen eu hunain ac mae pawb yn mynd trwy gyfnod digon ofnus ac mae cael eu hynysu wedi bod yn brofiad anodd iawn.
Elwodd 60 o bobl – cymuned canser, gwirfoddolwyr a staff.
Cyfanswm yr oriau gwirfoddoli 326 Cyfanswm y gwirfoddolwyr 7
Er enghraifft, mae un gŵr oedd yn ynysig iawn ac yn arbennig o swil wedi dod allan o’i gragen ar ôl mynychu sesiynau Zoom trwy gydol y cyfnod clo. Erbyn hyn mae’n gofalu am yr holl gleientiaid newydd, ac yn eu croesawu ac yn gwneud iddynt deimlo’n ddiogel ac ymlaciol. |