Cronfa Adferiad Covid-19 Sir Gâr
Enw’r Mudiad | Neuadd Bentref Llanarthne |
Lleoliad | Llanarthne, Cerfyrddin |
Mwy am y mudiad
| Darparu’r cyfleusterau gorau sydd ar gael yn yr ardal i’r pentref a’r gymuned a chefnogi aelodau a gwirfoddolwyr |
Swm a Phwrpas y Grant | Dechrau dod â’r gymuned at ei gilydd mewn ffordd ddiogel. Darparu caffi cymunedol ac agor y tai bach yn y neuadd a sicrhau y darperir cyfleusterau glân trwy gyflogi glanhaydd rhwng 12 ganolddydd a 4pm ar ddyddiau Sadwrn a Sul am 6 wythnos ac yna ychwanegu dyddiau Iau (diwrnod y llyfrgell symudol) a dyddiau Gwener yn ystod gwyliau’r Haf. Rhoi’r hyder i deuluoedd a thrigolion hŷn ddechrau dod yn ôl i ddefnyddio’r neuadd unwaith eto. A rhywfaint o gadachau atal-feirws ychwanegol a menig/ffedogau ychwanegol. Paratoi te/coffi a theisennau i bentrefwyr ac ymwelwyr er mwyn dechrau cymdeithasu dan do ac yn yr awyr agored ar fyrddau picnic a gazebo Defnyddio’r wefan/tudalen facebook newydd a chylchlythyr i negyddu ynysigrwydd cymdeithasol a rhoi gwybod i bobl fod y cyfleusterau wedi ail-agor. Grant o £1830: Cyflog Glanhaydd £1300 Trydan £300 PPE, ffedogau, cadachau a menig ychwanegol £100 Te/coffi/cwpanau papur/nwyddau traul £130 |
Cyflawniadau’r Prosiect/ Heriau/Buddiolwyr /Partneriaid/Deilliannau | 14 gwirfoddolydd 27 o fynychwyr ar gyfartaledd bob dydd caffi ar agor x 4 diwrnod x 10 wythnos = cyrhaeddwyd 1080 aelod o’r gymuned. Cefnogwyd aelodau bregus y gymuned a newydd-ddyfodiaid i gael sgwrs a chwrdd â phobl. Roedd y caffi mor llwyddiannus fel y bydd yn agor eto o fis Ebrill. Llawer o sylwadau hyfryd ar y wefan/tudalen facebook. |