Enw’r Mudiad | Canolfan Maerdy |
Lleoliad | Rhydaman, Sir Gaerfyrddin |
Mwy am y mudiad
| Cyfleuster cymunedol sy’n gartref i nifer o wasanaethau gan gynnwys: Lots of Tots – Meithrinfa gofal dydd cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau gofal plant dwyieithog o ansawdd uchel i hyd at 52 o blant ers dros 30 mlynedd. Hwb Bwyd – Cyflenwadau bwyd dyddiol i oedolion a theuluoedd bregus sydd mewn perygl o wynebu tlodi bwyd ac ynysigrwydd. Mae Canolfan Maerdy hefyd yn ganolfan ar gyfer trafnidiaeth gymunedol leol, gan hwyluso teithiau i glinigau iechyd |
Swm a Phwrpas y Grant | £1,000 Prynu llawr finyl yn lle’r carpedi. Treuliau gwirfoddolwyr, gan gynnwys costau teithio am 6 mis. |
Cyflawniadau’r Prosiect/ Heriau/Buddiolwyr /Partneriaid/Deilliannau | Roedd y cyllid wedi galluogi’r cyfleuster gofal plant i aros ar agor trwy gydol y pandemig trwy osod llawr clustogol newydd glân a rhwydd i’w lanhau yn lle’r carped yn y feithrinfa. Gwnaeth hyn y feithrinfa yn fwy hylan, gan leihau’r risg y byddai plant ac oedolion yn cael Covid. Dros y chwe mis diwethaf, mae cyllid wedi helpu dros 4000 o fuddiolwyr trwy’r Hwb Bwyd, ac mae 70 o blant unigol wedi derbyn gofal plant ac fe ddiogelwyd 15 o swyddi staff y feithrinfa. |