CASM: Adferiad COVID-19

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Cronfa Adferiad Covid-19 Sir Gâr

Enw’r MudiadCASM – Gofalwyr Camddefnyddwyr Alcohol a Sylweddau
LleoliadLlanelli
Mwy am y mudiadRhoi cefnogaeth i ofalwyr Camddefnyddwyr Alcohol a Sylweddau
Swm a Phwrpas y Grant

Prosiect Ail-adeiladu CASM 2021

Cyfanswm y grant a roddwyd: £1984.80

Cyflawniadau’r Prosiect/ 

Heriau/Buddiolwyr

/Partneriaid/Deilliannau

Cefnogwyd buddiolwyr ac aelodau grŵp CASM a’u teuluoedd trwy gyfarfodydd Zoom, cefnogaeth ar y ffôn a sgyrsiau grŵp WhatsApp yn ystod cyfnod anodd iawn i’r sawl oedd yn gofalu am neu’n byw gyda rhywun sy’n dioddef caethineb.

Ail-gychwynwyd cyfarfodydd wyneb yn wyneb wythnosol ac fe logwyd neuadd gymunedol fwy ar gyfer hyn; roedd rhaid talu costau llogi uwch i fod yn Covid ddiogel a gwella iechyd meddwl aelodau oedd yn ei chael yn anodd.

Cafodd ynysigrwydd cymdeithasol ei leihau trwy adael i lawer o fuddiolwyr oedd mawr angen help a chyngor i gysylltu â CASM ar y ffôn. Darparwyd ar gyfer pobl sydd wedi’u heithrio’n ddiogel trwy drefnu gwasanaeth ffôn 24 awr diogel, mawr ei angen.

Costau:

4x Rhyngrwyd Swyddogion @ £28 y mis am 12 mis = £1,344.00

Costau ffonau symudol am 12 mis @ £30 y mis= £ 360.00

Costau’r Neuadd am 3 mis @ £23.40 yr wythnos = £280.80

Mae llawer o aelodau wedi elwa o’r cyllid i barhau i ddarparu gwasanaeth hollbwysig, o leiaf 30 o deuluoedd a 15 plentyn a phobl nad oeddent yn aelodau.

Roedd rhai aelodau’n ei chael yn anodd iawn byw gyda rhywun â chaethineb, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo pan na allai plant fynd allan. Roedd CASM yn gallu darparu pecynnau therapi a thalebau i’r plant i’w gwario mewn siopau lleol er mwyn helpu eu Hiechyd Meddwl a’u cadw’n brysur.