Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae CAVS yn gweithio’n agos gyda phartneriaid statudol i sicrhau bod llais y Trydydd Sector yn cael ei glywed yn y sir.
Mae Prif Swyddog CAVS yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2018 ac yna fe ffurfiwyd grwpiau cyflawni i weithredu’r cynllun, gan ganolbwyntio ar y pedwar amcan llesiant allweddol:
- Amgylchedd Iach ‐ Bod gan bobl ansawdd bywyd da, a’u bod yn gwneud dewisiadau iachus am eu bywydau a’u hamgylchedd
- Ymyrraeth Gynnar – Bod pobl yn cael yr help priodol ar yr amser iawn; yn ôl y gofyn
- Cysylltiadau Cadarn – Pobl, llefydd a sefydliadau sydd wedi’u cysylltu’n gadarn, sy’n gallu addasu i newid
- Pobl a Llefydd Llewyrchus – Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl a llefydd yn rhannau trefol a gwledig ein sir
Mae Prif Swyddog CAVS yn Gadeirio a bod yn arweinydd arbenigol ar gyfer Grŵp Cyflawni Cysylltiadau Cryfion ac mae CAVS hefyd cynrychioli’r Trydydd Sector ar bob un o’r grwpiau cyflawni eraill.
Y Sir Gâr a Garem – Cyhoeddi Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Gâr ar gyfer 2023-28
Mae Cynllun Llesiant Lleol 2023-2028 bellach wedi’i gyhoeddi. Mae’n nodi sut y bydd llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Gâr yn cael ei wella dros y pum mlynedd nesaf ac mae’n cynnwys yr Amcanion Llesiant a ganlyn:
• Sicrhau economi gynaliadwy a chyflogaeth deg
• Gwella lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd
• Ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur
• Mynd i’r afael â thlodi a’i effeithiau
• Helpu i greu cymunedau dwyieithog, diogel ac amrywiol.
Darllenwch y cynllun – Cynllun Llesiant
Byddwch yn rhan o’r sgwrs sy’n digwydd yn Sir Gâr – Y Sir Gâr a Garem
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a Chydweithrediad y Trydydd Sector
Cydweithio er lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Sir Gaerfyrddin.
Cynhaliwyd gweithdy ar 11 Ionawr 2023 i edrych ar sut y gall sefydliadau’r Trydydd Sector a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus lleol gydweithio i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith.
Clywodd y cyfranogwyr gan dri siaradwr. Rhoddodd Jenny McConnel o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru drosolwg cenedlaethol a siarad am bwysigrwydd y Trydydd Sector wrth gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd Llinos Evans o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin (BGC) y cyd-destun lleol ar sut mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a’r Trydydd Sector yn cydweithio a siaradodd Vikki Butler o Labordy Cydgynhyrchu Cymru am Brosiect Dewi a’u gwaith gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Jenny McConnel o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Llawrlwythwch Powerpoint Jenny Yma
Fel dadansoddwr newid mae Jenny yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru i’w helpu i gyflawni’r Ddeddf Llesiant i’r eithaf. Yn fwyaf diweddar mae hyn wedi cynnwys adolygu ac ymateb i asesiadau llesiant y BGC a Chynlluniau Llesiant drafft. Mae hi hefyd yn arwain ar fonitro ac asesu ac yn olrhain amcanion Cyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i adolygu sut y maent wedi newid yn unol ag argymhellion blaenorol a wnaed gan Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol. Cyn ymuno â’r swyddfa, mae hi wedi gweithio mewn gwleidyddiaeth ac Ymchwil Gymdeithasol yng Nghymru, Llundain a Brwsel
Mwy o wybodaeth am Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
The Future Generations Commissioner for Wales – Acting today for a better tommorrow
Llinos Evans, Tîm Cefnogi BGC, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
Lawrlwythwch Powerpoint Llinos Evans Yma
Mae Llinos Evans wedi gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin yn y Tîm Polisi ers graddio o brifysgol Aberystwyth ac wedi parhau â’i hastudiaethau trwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ganddi brofiad o weithio ar draws sectorau ac mae wedi gweithio’n bennaf ym maes polisi sy’n seiliedig ar y Gymraeg a Chydraddoldeb. Tan yn ddiweddar ehangodd ei rôl i gynnwys gweithio o fewn Tîm Cymorth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r tîm hefyd yn rheoli proses Gwyno’r Cyngor, Ymgysylltu a Chyfranogiad, Cyfamod y Lluoedd Arfog, Heneiddio’n Dda, Diogelwch Cymunedol, Cyswllt Cynghorau Cymuned a Thref, ochr yn ochr â meysydd statudol allweddol megis safonau’r Gymraeg.
Mwy o wybodaeth am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin:
The Carmarthenshire We Want
Vikki Butler o Gydgynhyrchu Cymru
Lawrlwythwch Powerpoint Vikki Butler Yma
Mae gan Vikki 25 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cynhwysiant cymdeithasol, fel ymarferydd datblygu cymunedol, ymchwilydd cyfranogol a chynghorydd polisi. Mae hi wedi gweithio ledled Cymru gyda grwpiau daearyddol a gwahanol sy’n wynebu ymyleiddio cymdeithasol a gwahaniaethu gan gefnogi eu llais a’u rhan mewn gwasanaethau a gwneud penderfyniadau. Mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau creadigol a dulliau seiliedig ar asedau i feithrin ymgysylltiad cynaliadwy ac ystyrlon. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel cyswllt gyda rhwydwaith cyd-gynhyrchu cymru ac yn gyd-gyfarwyddwr C.A.R.P. Cydweithrediadau.
Mwy o wybodaeth am Gydgynhyrchu Cymru:
Co-production Wales | Cyd-gynhyrchu Cymru | (coproduction.wales)
Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Cydweithio
Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid a phartneriaethau o bob math, gan gynnwys:
- Partneriaeth DOG Sir Gaerfyrddin
- Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Bwrdd Gwasanaethau Integredig Sir Gaerfyrddin
- Ffoaduriaid Syriaidd Sir Gaerfyrddin
- Canolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands
- Grŵp Cefn Gwlad
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Llanelli Pentre Awel
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid (Hywel Dda)
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru