Gwirfoddoli: ar gyfer Sefydliadau

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Sut all CAVS helpu

Gall y Ganolfan Gwirfoddoli yn CAVS eich helpu gyda phob agwedd ar weithio gydag a recriwtio gwirfoddolwyr.

Er mwyn gweithio’n effeithiol a theg bydd angen ichi ddatblygu, a chael eich arwain gan, nifer o ddogfennau, gan gynnwys Polisi Gwirfoddoli, polisi iaith, ac efallai diogelu ac eraill. Gallwn eich helpu i baratoi neu wella eich Polisïau a gweithdrefnau gwirfoddoli.

Gallwn eich helpu hefyd i wneud y defnydd gorau o lwyfan Gwirfoddoli Cymru (gweler isod) i hysbysebu eich Cyfleoedd Gwirfoddoli a recriwtio gwirfoddolwyr newydd

CVON

Byddem yn eich annog i ymuno â’n Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr (CVON). Rydym yn cyfarfod bob chwarter yn gyffredinol, ac mae cyfarfodydd y rhwydwaith yn gyfle gwych i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf a chadw cysylltiad â mudiadau trydydd sector eraill o bob rhan o’r sir.

Gwirfoddoli Cymru

Gwirfoddoli Cymru yw’r llwyfan rydym yn annog pob mudiad yn y sir (ac yn wir trwy Gymru gyfan) i’w ddefnyddio i recriwtio a rheoli eu gwirfoddolwyr. Mae’n ddigon rhwydd cofrestru a chreu rhestrau ar gyfer eich Cyfleoedd Gwirfoddoli – a gallwn helpu ymhob cam o’r broses. Nid ein gwefan ni yw hon, ond rydym yn weinyddwyr ar gyfer y fersiwn yn Sir Gaerfyrddin.

Trowch at Sut i gofrestru ar Gwirfoddoli Cymru (ar gyfer mudiadau)

Adnoddau

Defnyddiwch ein tudalen Adnoddau Gwirfoddoli i ddod o hyd i wybodaeth ar faterion gwirfoddoli o bob math.

Dysgu

Rydym wedi sefydlu porth dysgu ar-lein newydd ac rydym hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddiant, gweithdai, sesiynau ymwybyddiaeth ac ati ar faterion perthnasol.


Trowch at ein hadran Ddysgu.

Gwobrau Pencampwyr Platinwm

Enwebwch eich arwr gwirfoddoli ar gyfer Gwobr Hyrwyddwr Platinwm.
Dyddiad cau: 10 Ebrill 2022 am 23:59.