Sut all CAVS helpu
Gall y Ganolfan Gwirfoddoli yn CAVS eich helpu gyda phob agwedd ar weithio gydag a recriwtio gwirfoddolwyr.
Er mwyn gweithio’n effeithiol a theg bydd angen ichi ddatblygu, a chael eich arwain gan, nifer o ddogfennau, gan gynnwys Polisi Gwirfoddoli, polisi iaith, ac efallai diogelu ac eraill. Gallwn eich helpu i baratoi neu wella eich Polisïau a gweithdrefnau gwirfoddoli.
Gallwn eich helpu hefyd i wneud y defnydd gorau o lwyfan Gwirfoddoli Cymru (gweler isod) i hysbysebu eich Cyfleoedd Gwirfoddoli a recriwtio gwirfoddolwyr newydd


CVON
Byddem yn eich annog i ymuno â’n Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr (CVON). Rydym yn cyfarfod bob chwarter yn gyffredinol, ac mae cyfarfodydd y rhwydwaith yn gyfle gwych i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf a chadw cysylltiad â mudiadau trydydd sector eraill o bob rhan o’r sir.
Gwirfoddoli Cymru
Gwirfoddoli Cymru yw’r llwyfan rydym yn annog pob mudiad yn y sir (ac yn wir trwy Gymru gyfan) i’w ddefnyddio i recriwtio a rheoli eu gwirfoddolwyr. Mae’n ddigon rhwydd cofrestru a chreu rhestrau ar gyfer eich Cyfleoedd Gwirfoddoli – a gallwn helpu ymhob cam o’r broses. Nid ein gwefan ni yw hon, ond rydym yn weinyddwyr ar gyfer y fersiwn yn Sir Gaerfyrddin.
Trowch at Sut i gofrestru ar Gwirfoddoli Cymru (ar gyfer mudiadau)
Adnoddau
Defnyddiwch ein tudalen Adnoddau Gwirfoddoli i ddod o hyd i wybodaeth ar faterion gwirfoddoli o bob math.
Dysgu
Rydym wedi sefydlu porth dysgu ar-lein newydd ac rydym hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddiant, gweithdai, sesiynau ymwybyddiaeth ac ati ar faterion perthnasol.
Trowch at ein hadran Ddysgu.

Menter Dinefwr Cyfleoedd Gwirfoddoli
Mae Menter Dinefwr yn edrych am unigolion brwdfrydig i wirfoddoli yn Hengwrt yn Llandeilo

Gwirfoddolwyr Ymatebwyr Lles Cymunedol, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ydych chi eisiau helpu yn eich cymuned leol? Ydych chi gydag amser rhydd i sbarion? Yn meddu ar drwydded yrru iawn? Mae hwn yn gyfle

Digwyddiad Cymunedol Rydym Ni Gyda Chi – Cwmaman
Mehefin 07, 2024 @ 10:00
Cost: Free/ Am Ddim
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Cwmaman

Digwyddiad Cymunedol Rydym Ni Gyda Chi – Llanelli
Mehefin 07, 2024 @ 11:00
Cost: Free/ Am Ddim
Lleoliad: The Goods Shed, Llanelli

Digwyddiad Cymunedol – Rydym Ni Gyda Chi, Llandysul
Mehefin 06, 2024 @ 10:00
Cost: Free/ Am Ddim
Lleoliad: Llandysul

Digwyddiad Cymunedol – Rydym Ni Gyda Chi, Hendy Gwyn ar Daf
Mehefin 05, 2024 @ 10:00
Cost: Am Ddim
Lleoliad: Hendygwyn ar Daf